Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Craffu ar Filiau a gyflwynwyd yn ystod tymor yr hydref
Diben
1. Gwahodd y Pwyllgor i ystyried ei ddull o graffu ar y Biliau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 isod.
Cefndir
2. Cafodd y Biliau a ganlyn eu cyflwyno yn yr hydref:
|
Bil |
Yr Aelod sy’n Gyfrifol: |
Y dyddiad adrodd ar gyfer y Pwyllgor Pwnc
|
Yn cynnwys pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau |
1 |
Y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) |
Peter Black AC |
22 Chwefror 2013 |
Ydy |
2 |
Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) |
Mick Antoniw AC |
8 Mawrth 2013 |
Ydy |
3 |
Y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) |
Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau |
22 Mawrth 2013 |
Ydy |
4 |
Y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) |
Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
22 Mawrth 2013 |
Ydy |
3. O dan Reol Sefydlog 21, mae rôl y pwyllgor yn cynnwys ystyried a chyflwyno adroddiad ar:
(a) pa mor briodol yw darpariaethau mewn Biliau’r Cynulliad sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol;
(b) unrhyw fater deddfwriaethol cyffredinol sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy’n ymwneud â’r cymhwysedd hwnnw.
Materion i’w hystyried
4. Bydd nodiadau briffio cyfreithiol ar bwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau sydd wedi’u cynnwys mewn Biliau yn cael eu rhoi i Aelodau.
5. Bydd Aelodau am ystyried a ydynt yn dymuno galw’r Aelodau sy’n gyfrifol i roi tystiolaeth mewn perthynas â’u Biliau.
6. Bydd Aelodau hefyd am ystyried a ydynt yn dymuno galw’r Gweinidog perthnasol i roi tystiolaeth mewn perthynas â Biliau y mae Aelodau’r meinciau cefn yn gyfrifol amdanynt.
Cam i’w gymryd
7. Gwahoddir yr Aelodau i gytuno ar y dull o gasglu tystiolaeth mewn perthynas â’r Biliau uchod.